Annie EifionaJONESJONES - ANNIE EIFIONA (Nancy). 4 Mai, 2015. Yn dawel yng nghwmni ei theulu yng nghartref Bodawen, Porthmadog, gynt o 3 Bryn Llwyn, Pen-y-groes, yn 92 mlwydd oed. Priod addfwyn y diweddar Robert Owen Jones, a mam gariadus Robert John, Annwen, Gwynfor a'r diweddar Arwyn; mam-yng-nghyfraith annwyl, a nain a hen-nain arbennig. Angladd brynhawn Llun, 11 Mai, 2015. Gwasanaeth cyhoeddus yn Eglwys Crist, Pen-y-groes am 1.30 o'r gloch, gan ddilyn ar lan y bedd ym Mynwent Bethel, Golan. Derbynnir rhoddion yn ddiolchgar er cof amdani tuag at elusennau lleol. Ymholiadau pellach i Roberts & Owen, Birmingham House, Pen-y-groes. LL54 6PL. 01286 881280.
Keep me informed of updates